1. Gwybodaeth a chyd-destun gwaith Barnardo’s Cymru

 

Bu Barnardo’s Cymru yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru am dros 100 mlynedd ac mae’n un o’r elusennau plant mwyaf sy’n gweithio yn y wlad.  Ar hyn o bryd, rydym yn rhedeg 86 o amrywiol wasanaethau drwy Gymru, gan weithio mewn partneriaeth â 16 allan o’r 22 awdurdod lleol.

 

Mae pob un o’n gwasanaethau yn wahanol, ond mae pob un yn credu bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn haeddu’r cychwyn gorau mewn bywyd, ac nid yw o bwys pwy ydyn nhw, beth maen nhw wedi’i wneud na beth y maen nhw wedi bod drwyddo.  Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth a gafwyd o’n gwaith uniongyrchol gyda phlant i ymgyrchu am bolisi plant a gofal cymdeithasol gwell ac er mwyn amddiffyn hawliau pob plentyn.  Rydym ni’n credu, gyda’r help cywir, y gefnogaeth ymroddedig ac ychydig o ymddiriedaeth, gall hyd yn oed y plant mwyaf bregus gael trefn ar eu bywydau.  Mae ein gwaith ni yn anelu at gefnogi teuluoedd cryfach, plentyndod mwy diogel a dyfodol cadarnhaol i’r rhai hynny yr ydym ni’n gweithio gyda nhw, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer mwy o blant.

 

2. CAMHS arbenigol

 

Amseroedd aros

 

Profiad Barnardo’s Cymru yw bod blaenoriaethu cyllid tuag at dderbyn ac asesu ar gyfer CAMHS mewn rhai rhannau o Gymru, wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn nhermau cwtogi amseroedd aros.

 

Fodd  bynnag, tra ein bod yn croesawu lleihau amseroedd aros yn yr ardaloedd hyn, mae pryderon ynglŷn â:

 

   Diffyg buddsoddi mewn gwasanaethau cefnogi sydd eu hangen i reoli’r adnabyddiaeth gynyddol o angen.

   Absenoldeb ymddangosiadol gweithwyr proffesiynol gyda chymwysterau addas i gynnig amrediad o ddewisiadau triniaeth seicolegol, fel ThGY, ThYD a therapi teulu.

   Bydd mwy o ganolbwyntio ar ddiagnosis plant a phobl ifanc yn arwain at wrthod y gefnogaeth briodol y maen nhw ei hangen i’r rhai hynny heb ddiagnosis, sy’n arbennig o wir i blant ieuengach, nad yw eu symptomau nhw yn cyd-fynd o angenrheidrwydd â diagnosis penodol.

 

 

Mewn rhai  rhannau o Gymru, adroddwyd bod rhestrau aros yn parhau i gynyddu, gyda rhai pobl ifanc yn disgwyl am hyd at flwyddyn am apwyntiad gyda CAMHS.

 

Amrywiadau mewn ymarfer a thegwch mynediad drwy Gymru

 

Barn Barnardo’s Cymru yw bod problem barhaus o annhegwch mynediad drwy Gymru, yn nhermau argaeledd ac amrywiaeth y gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl. 

 

Mae’n ymddangos bod rhywfaint o ymarfer da, gyda gwasanaeth cryf yn cael ei gynnig ar gyfer rhai cyflyrau, tra bod gwasanaethau eraill heb gyllid digonol ac wedi’u gorlwytho yn barhaol.  Mae mynediad at wasanaethau mewn cymunedau gwledig yn parhau yn heriol i rai o’n defnyddwyr gwasanaethau.

 

Roedd pryder ymysg ein staff bod gwasanaethau yn dod i ben yn arwain at golli arbenigedd a dysgu yn ogystal â cholli darpariaeth gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

 

Mae angen am fwy o rannu gwybodaeth mewn ardaloedd penodol.  Mewn llawer o awdurdodau lleol, ceir fforymau cyfnewid  gwybodaeth.  Fodd bynnag, mae anghysondebau drwy Gymru o safbwynt y modd y maen nhw’n gweithredu a pha weithwyr proffesiynol neu ba sefydliadau sy’n cael eu cynnwys ym mhob rhwydwaith.

 

Goratgyfeirio at CAMHS

 

Mae’r mwyafrif o wasanaethau Barnardo’s Cymru yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd gyda lefelau uchel o angen cymdeithasol ac emosiynol.  Mae ymarferwyr yn gyfarwydd â delio gyda thrawma a thrafod argyfyngau gydag unigolion a theuluoedd.  Fodd bynnag, yn anochel, bydd problemau sy’n codi i staff lle maen nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw ddigon o wybodaeth, hyder na chefnogaeth wrth ymdrin â phroblemau neu ymddygiadau gofidus sy’n ymddangos.  Beth sy’n helpu yn y sefyllfaoedd hyn yw cael mynediad at ymgynghoriad a chefnogaeth iechyd meddwl arbenigol a chael llwybrau eglur lle gellir ymgysylltu â gwasanaethau eraill ynglŷn âchefnogaeth, gwneud penderfyniadau a, lle bo angen, atgyfeirio ymlaen.

 

 

 

 

Yng Nghasnewydd, mae gwasanaeth CAMH yn cynnig ymgynghoriad seicolegol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn ogystal â hyfforddiant, lle y bo angen.  Yn ogystal â helpu i leihau atgyfeiriadau anaddas i CAMHS, mae hyn yn helpu i sicrhau ymateb ymarfer diogel, addas.

 

 

Atgyfeiriad a mynediad at CAMHS yn unol â byrddau iechyd unigol, cyfyngiadau a throthwyon

 

Mae Barnardo’s Cymru yn nodi bod pryderon yn parhau o drothwyon uchel ar gyfer CAMHS, a all adael gweithwyr proffesiynol  gorlwythog â gwaith a heb ddigon o gymwysterau i ymdrin ag achosion, a ddylai fod wedi derbyn cefnogaeth fwy arbenigol.

 

Gall diffyg cyfathrebu rhwng CAMHS a gwasanaethau eraill sy’n gweithio i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion iechyd meddwl, greu ffordd annibynnol o weithio.

 

 

Cefnogaeth frys, y tu allan i oriau a Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys

 

Rydym ni’n ymwybodol o rai datblygiadau cadarnhaol yn y maes hwn, yn cynnwys nyrsys CAMHS penodedig ar gael mewn ysbytai ac ar alwad ar gyfer, er enghraifft, y monitor gorddos yng Nghasnewydd.  Mae’r gwasanaeth pwrpasol hwn yn golygu bod plant a phobl ifanc sy’n dod i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, yn cynnwys y rhai hynny gydag ymddygiadau hunanladdol a all gael eu gweld fel risg uchel, yn gallu cael eu gweld a’u hasesu gan nyrs CAMHS a chael eu cyfeirio at CAMHS fel sy’n addas.

 

Pan mae pobl ifanc yn dod i adrannau brys yn ystod adegau o argyfwng, mae angen i weithwyr proffesiynol gyfathrebu gyda gwasanaethau iechyd a chymdeithasol er mwyn nodi gwir achosion y gofid a chynnig y gefnogaeth fwyaf addas yn yr hirdymor ar gyfer yr unigolion hynny.  Nid yw’r gwaith dilynol hwn bob amser yn cael ei wneud yn gyson.

 

Lle ar gyfer cleifion mewnol

 

Mae rhai plant a phobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn teithio yn bell i gael mynediad at wasanaethau mewnol.  Mae hyn yn eu tynnu oddi wrth eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cefnogaeth, a all achosi straen ac ychwanegu at eu gofid yn gyffredinol.

 

Yn hytrach nag aros mewn cyfleuster ar gyfer cleifion mewnol a all wahanu plant a phobl ifanc oddi wrth eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cefnogi, roedd ein staff yn ystyried y gall fod cyfleoedd i gynnig cefnogaeth ddwysach mewn cymunedau.

 

Mae’r trawsnewidiad yn ôl i wasanaethau yn y gymuned ar gyfer y rhai hynny sy’n gadael unedau cleifion mewnol yn gallu bod yn anodd.  Mae hwn yn awgrymu, lle y bo’n bosibl, y gellir cefnogi iechyd meddwl unigolyn ifanc yn well drwy gyflawni gwasanaethau dwys mewn timau cymunedol, er ein bod yn deall na fyddai hyn bob amser yn addas.

 

3. Cyllid

 

Mae prosesau a pherthnasau comisiynu rhwng Awdurdodau Lleol a sefydliadau gwirfoddol yn eang, wedi’i sefydlu ac yn gyffredinol yn cael eu deall yn dda.  Fodd bynnag, mae ein profiad cyfyngedig o gael ein comisiynu i gyflawni gwasanaethau gan y BILlau yn wahanol.  Mae’r comisiynau hyn wedi bod yn fwy cymhleth ac anodd eu cyrraedd.

 

Mae amrywiad rhwng BILlau drwy Gymru, gyda rhai ohonyn nhw yn haws i ymgysylltu â nhw nag eraill.  Fodd bynnag, mae’n ymddangos inni y gall fod angen ‘iaith’ a fframwaith newydd ar gyfer comisiynu gwasanaethau gan y sector gwirfoddol.  Yn sicr, os yw dyhead Rhaglen ‘Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc’ am feithrin platfform o fwy o wasanaethau cefnogi cymunedol anfeddygol ar sail gwybodaeth seicolegol a thrawma i’w gyrraedd, yna mae hon yn broblem a fydd angen ymdrin â hi.

 

Mynediad at therapïau seicolegol, cwtogi meddyginiaethau

 

Ein profiad ni yw bod angen yn parhau am fynediad ehangach at amrywiaeth o therapïau seicolegol, a ddylai fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol sy’n ddigon cymwys i gynnig y triniaethau hyn.

 

Mewn rhai ardaloedd, rydym yn meddwl bod rhagnodi meddyginiaethau i blant ar lefel addas, tra bod meddyginiaethau mewn ardaloedd eraill yn cael ei weld fel y gobaith cyntaf yn hytrach na’r olaf, fel y byddwn ni’n gobeithio y dylai fod.

 

Mewn un ardal, rydym ni’n ymwybodol o rieni yn galw am feddyginiaethau ar gyfer eu plant yn cael dewis mynediad at grwpiau rhianta sydd wedi canolbwyntio ar strategaethau amgen i feddyginiaethau er mwyn ymateb i broblemau a gyflwynwyd gan eu plant a’u rheoli nhw.  Mewn ardaloedd eraill, mae rhieni sy’n cael mynediad at wasanaethau Barnardo’s Cymru wedi adrodd bod buddion, o safbwynt gallu deall a rheoli problemau iechyd meddwl eu plant, drwy gael mynediad at rai rhwydweithiau cefnogi cymheiriaid ehangach.

 

Iechyd Meddwl Sylfaenol

 

Ein profiad ni yw er bod Gofal Iechyd Meddwl Sylfaenol yn dda mewn rhai rhannau o’r wlad, nid yw ansawdd a hygyrchedd y ddarpariaeth yn gyson drwy Gymru, gyda rhai gwasanaethau yn cael profiad o lwythi achosion mawr iawn.

Plant a phobl ifanc bregus

 

Bu enghreifftiau o ymarfer da yn nhermau staff CAMHS wedi’u lleoli mewn timau amlasiantaethol, yn gweithio gyda phlant bregus, pobl ifanc a’u teuluoedd, fel mewn Timau Troseddau Ieuenctid.  Efallai y gall gwasanaethau eraill sy’n cyflawni ar gyfer grwpiau bregus, fel pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau neu’n ymadawyr gofal gael budd o’r dull hwn yn ogystal.

 

Bu adroddiad diweddar a gynhyrchwyd gan Barnardo’s[1], yn edrych ar anghenion iechyd meddwl ar gyfer gadawyr gofal yn Lloegr.  O fewn yr argymhellion, roedd galwad ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl arbenigol i’w hymwreiddio yn y timau gadael gofal ac ar gyfer mwy o hyfforddiant iechyd meddwl i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gydag ymadawyr gofal.  Rydym ni yn cydnabod y byddai timau gofal yng Nghymru yn ogystal yn cael budd o’r datblygiadau hyn.

 

Gall fod gwir rwystrau i ymgysylltu â theuluoedd sydd â nifer o anghenion a nodweddion bregus.  Mae ein gwasanaethau yn adrodd bod gwaith wedi cael ei wneud mewn rhai ardaloedd er mwyn galluogi gwell ymgysylltiad â’r teuluoedd hyn, drwy wella cyfathrebu rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector.

 

4. Y trawsnewid i wasanaethau oedolion

 

Cymysg yw profiadau’r trawsnewid ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau.  Mae problemau yn ymwneud â’r gwahaniaeth mewn diwylliant ymarfer rhwng CAMHS ac AMHS sy’n cyflwyno rhwystrau i bobl ifanc.  Yn AMHS, gall y polisïau mwy caeth ynghylch peidio â mynychu apwyntiadau fod yn anodd i bobl ifanc addasu iddyn nhw.  Mewn rhai achosion, gall pobl ifanc fod mewn risg o golli eu dewisiadau am gefnogaeth.

 

Mae Barnardo’s Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi datblygu canllaw wedi’i arwain gan ddefnyddiwr gwasanaethau o’r enw Pasbort Trawnsnewidiadau, ar gyfer y rhai hynny sy’n trawsnewid o CAMHS i AMHS.  Mae’r pasbort yn siarad yn uniongyrchol â’r bobl ifanc, yn y gobaith y bydd hyn yn eu grymuso i gael gwell profiad o symud o wasanaethau plant at wasanaethau oedolion.  Y bwriad yw cyflwyno’r pasbort drwy Gymru.  Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen gweithiwr trawsnewidiadau penodedig i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio’r pasbort.

 

 

 

 

5. Y cysylltiadau ag addysg

 

Mae pennu iechyd a llesiant fel maes allweddol o ddysgu a phrofiad, a’r ymwybyddiaeth gynyddol o iechyd emosiynol yn y fframweithiau arolygu yn creu cyfle ar gyfer gwell deallusrwydd emosiynol ac atal salwch.

 

Fodd bynnag, rydym yn bryderus y dylai cyllid gael ei neilltuo er mwyn sicrhau nad yw ysgolion o dan unrhyw straen ychwanegol, o safbwynt adnoddau a chyllidebau, a allai beryglu bwriad da’r cwricwlwm.  Byddem yn dadlau bod agwedd yr ysgol gyfan yn bwysig ar gyfer gweithredu.

 

Nyrsys ysgol

 

Rydym ni’n pryderu ynglŷn âchyllido darpariaeth ar gyfer nyrsys ysgol.  Mewn rhai ardaloedd, mae nyrsys ysgol yn gweithio ar draws nifer o ysgolion ac yn meddu ar feichiau gwaith trwm.  Ambell waith, mae ymarferwyr Barnardo’s wedi cael anawsterau wrth gyfathrebu gyda nyrsys ysgol prysur.

 

Cwnselwyr wedi’u lleoli mewn ysgolion

 

Mae’r canlynol ymysg y problemau sy’n cael eu codi gydag ymarferwyr mewn perthynas â chwnsela yn yr ysgol:

 

   Mae llawer o bobl ifanc yn trafod buddion cadarnhaol ar ôl derbyn y gefnogaeth hon.  Fodd bynnag, nid yw cwnsela yn addas ar gyfer pob unigolyn ifanc ac ni wnaethom ni dderbyn unrhyw wybodaeth ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth iechyd emosiynol o fewn amgylchedd ysgol.

   Bu’n brofiad gan wasanaeth cwnsela Barnardo’s Cymru mewn ysgolion y gall cyflwyno rhai o’r sesiynau cwnsela y tu allan i’r ysgol roi budd i’r rhai hynny sy’n teimlo eu bod yn cael eu difrïo wrth gael mynediad at wasanaeth yn yr ysgol.

   Mae problemau yn parhau mewn perthynas ag atgyfeirio pobl ifanc gydag anghenion dwysach er mwyn iddyn nhw dderbyn mwy o gefnogaeth ddwys.  Ambell waith, nid yw’r bobl ifanc hyn yn cwrdd â throthwyon CAMHS.  Unwaith eto, mae hyn yn adlewyrchu diffyg therapi seicolegol sydd ar gael yng Nghymru.

   Oherwydd galw uchel, a cholli cyllid a glustnodwyd ar gyfer y gwasanaeth, mae cwnselwyr yn aml yn cael eu gorlwytho â gwaith a chodwyd pryderon ynglŷn â’u llesiant.

 

 

 

 



[1] Smith, N. (2017) Neglected Minds: A report on mental health support for young people leaving care http://www.barnardos.org.uk/19222_neglect_minds_a_report_on_mental_health_2.pdf